Mae’r cyfrifoldeb am blismona yng Nghymru a Lloegr wedi’i rannu rhwng yr Ysgrifennydd Cartref, yr Awdurdod Heddlu a’r Prif Gwnstabl. Cyfeirir at hyn yn aml fel y System Driphlyg.
Er yn gweithio gyda’i gilydd, mae pob un yn annibynnol ar y lleill.
Yn syml:
-
Mae'r Ysgrifennydd Cartref yn gosod polisi, amcanion a thargedau cenedlaethol.
-
Mae’r Awdurdod Heddlu yn gosod y Cynllun Plismona strategol lleol a Blaenoriaethau’r Llu
-
Mae gan y Prif Gwnstabl annibyniaeth weithredol am gyfeiriad a rheolaeth y Llu.
Mae gan yr Awdurdod Heddlu nifer fawr o gyfrifoldebau statudol. Ei dri prif swyddogaeth yw:
-
Sicrhau Gwasanaeth Heddlu effeithlon ac effeithiol a dal y Prif Gwnstabl i gyfrif
-
Sicrhau Gwerth Gorau a gwelliant parhaus yn y modd y caiff ei swyddogaethau eu hymarfer
-
Cael barn pobl leol am blismona yn eu hardal a chydweithrediad pobl leol mewn atal troseddu.
Mae cyfrifoldebau statudol eraill yn cynnwys:
-
Gosod y blaenoriaethau plismona, yn dilyn ymgynghori â’r cyhoedd a’r Prif Gwnstabl
-
Cyhoeddi Cynllun Plismona Blynyddol ac Adroddiad Blynyddol
-
Penodi ac, os bydd angen, diswyddo’r Prif Gwnstabl, y Dirprwy Brif Gwnstabl a’r Prif Gwnstabliaid Cynorthwyol
-
Dal Cronfa’r Heddlu a chynnal cyfrifon
-
Gosod praesept yr heddlu ar gyfer y dreth gyngor leol
-
Ymchwilio cwynion a wneir yn erbyn Prif Swyddogion yr Heddlu a monitro cwynion am holl bersonél eraill yr heddlu
-
Rhoi ystyriaeth ddyladwy i’r angen i ddileu gwahaniaethu ac aflonyddu anghyfreithlon ar sail hil, rhyw ac anabledd
-
Hyrwyddo amrywiaeth o fewn y Llu a’r Awdurdod
-
Monitro perfformiad y llu o ran cydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998
-
Cyhoeddi crynodeb plismona lleol blynyddol
-
Cynnal Cynllun Ymweliadau Annibynnol â’r Ddalfa effeithiol
-
Cydymffurfio â chyfarwyddiadau gan yr Ysgrifennydd Cartref o ran gofynion cyllideb, targedau perfformiad neu y dilyn adroddiad anffafriol gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi
-
Cydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
Cliciwch ar y ddogfen isod i weld rhestr lawn cyfrifoldebau’r Awdurdod.