Gyda Phwy Fyddwn yn Gweithio
Mae’r Awdurdod Heddlu yn gweithio’n agos gyda sefydliadau cenedlaethol a lleol.
Mae AHC yn sefydliad cynrychioliadol o bedwar Awdurdod Heddlu Cymru. Prif nodau AHC yw:
-
Ystyried a gweithredu ar faterion sy’n effeithio ar blismona yng Nghymru, yn enwedig y rhai hynny o dan reolaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru
-
Ceisio dylanwadu ar yr agenda blismona ar lefel genedlaethol ar ran Awdurdodau Heddlu a chymunedau lleol yng Nghymru.
Gweledigaeth ar gyfer plismona yng Nghymru - “Bydd gwasanaethau heddlu Cymru yn gweithio gyda'n cymunedau a'n partneriaid i greu Cymru sy’n well ac yn ddiogelach, gan drin pawb â chwrteisi a pharch”.
Yr APA yw’r corff cenedlaethol sy’n cynrychioli awdurdodau heddlu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan ddarparu llais cenedlaethol a chefnogi’r gweithrediadau lleol.
Mae’r APA yn datblygu polisïau ar yr holl faterion sy’n ymwneud â’r heddlu, yn cydlynu ymatebion gan awdurdodau sy’n aelodau ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r pryderon.
Mae’r Swyddfa Gartref yn gweithio gyda’r Prif Gwnstabl a’r Awdurdod Heddlu i reoli lluoedd. Mae hyn yn rhan o’r system driphlyg.
Mae’r system hon yn atal ymyrraeth wleidyddol mewn plismona ac yn osgoi rhoi grym i unrhyw un sefydliad dros y gwasanaeth heddlu yn ei gyfanrwydd.
Goruchwylir y Swyddfa Gartref gan yr Ysgrifennydd Cartref ac fe’i cefnogir gan y Gweinidog Heddlu.
Er nad yw plismona wedi ei ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae sawl agwedd ar ddiogelwch cymunedol wedi eu datganoli.
Mae’r Awdurdod Heddlu yn gweithio’n agos gyda’r Cynulliad, yn arbennig gyda’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Rydym ni, ynghyd â’n cymheiriaid yn yr Awdurdodau eraill yng Nghymru yn cyfarfod yn gyson gyda’r Gweinidog i drafod plismona a materion diogelwch cymunedol.
Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Gweinidog dros Gyllid, sydd â rheolaeth dros rai o’r grantiau a ddarperir i’r Awdurdod.
Partneriaethau Diogelwch Cymunedol
Mae gan bob un o’r saith awdurdod lleol o fewn De Cymru eu Partneriaeth Diogelwch Cymunedol ei hunain. Ffurfir pob partneriaeth o gynrychiolwyr o nifer o wahanol sefydliadau, yn cynnwys y cyngor lleol, swyddogion heddlu a’r gwasanaeth tân.
Mae’r Awdurdod Heddlu yn bartner statudol ar hyn a bydd Aelod o bob ardal yn eistedd ar eu Partneriaeth leol.